Mae dyn a yrrodd ei gar i mewn i gysgodfan ysgmygwyr y tu allan i dafarn, gan anafu 21 o boboo, wedi’i garcharu am dair blynedd a 10 mis.
Fe aeth Ryan Ford, 24, ar ei ben i mewn i gysgodfan y tu allan i glwb Streets ym Mhorthcawl yn ystod oriau mân Hydref 25 eleni, tra’n ceisio dianc rhag yr heddlu. Fe gafodd 21 o bobol eu brifo yn y digwyddiad, yn cynnwys chwech o bobol yr oedd yn rhaid iddyn nhw gael llawdriniaeth frys.
Fe glywodd Llys y Goron Caerdydd sut yr oedd Ryan Ford wedi cael ei daflu allan o glwb nos arall yn y dre’ yn gynharach y noson honno, ar ôl cael ei ddal ar deledu cylch-cyfyng yn cario ei alcohol ei hun i mewn i’r sefydliad.
Fe aeth i godi ei gariad yn ei gar Audi A4, cyn troi’n ôl i mewn i dre’ Porthcawl. Fe sylwodd plismyn mewn car nad oedd goleuadau’r Audi A4 wedi’u cynnau, ac fe aethon nhw ar ei ôl… a dyna pryd y dechreuodd Ryan Ford yrru’n wyllt er mwyn dianc rhag yr heddlu.
Pan ddaeth i ardal clwb Streets, fe freciodd yn sydyn, fe gollodd reolaeth o’r car, ac fe sgidiodd hwnnw ar dro o 180 gradd, cyn taro’n erbyn y gysgodfan i ysmygwyr, lle’r oedd dwsinau o bobol yn sgwrsio ymysg ei gilydd.
Fe blediodd yn euog i’r cyhuddiadau o yrru’n beryglus, o fethu â rhoi spesimen ar gyfer prawf, ac o yrru heb yswiriant. Yn ogystal â chael ei garcharu, mae wedi’i wahardd rhag gyrru am chwe blynedd.