Mae ymosodwyr wedi troi ar dri gwersyll milwrol ym mhrifddinas Burundi, gan ladd 15 o bobol ac ysgwyd dinas Bujumbura gyda chwffio chwyrn, ffrwydriadau a thanio gynnau.
Fe gafodd 12 o’r ymosodwyr, ynghyd â thri milwr, eu lladd yn y digwyddiadau. Yn ôl adroddiadau, mae 20 o ymosodwyr wedi’u dal, tra bo pump soldiwr wedi’u hanafu.
Roedd swn yr ymladd i’w glywed trwy’r bore, gyda thrigolion y ddinas yn dewis aros yn eu cartrefi yn hytrach na mentro allan i ganol y cwffio. Fe fu cerbydau heddlu arfog yn patrolio’r ardal o gwmpas canol Bujumbura.
Yn ôl llefarydd ar ran byddin Burundi, prif nod yr ymosodwyr oedd dwyn arfau, cyn eu defnyddio wedyn i ryddhau carcharorion.