Donald Trump
Mae Donald Trump wedi cael ei feirniadu’n chwyrn ar ôl iddo ddweud y dylai Mwslimiaid gael eu gwahardd yn llwyr rhag cael mynediad i’r Unol Daleithiau.

Dywedodd ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr y dylai’r gwaharddiad barhau “nes bod cynrychiolwyr ein gwlad yn gallu darganfod beth sy’n mynd ymlaen.”

“Hyd nes y byddwn yn gallu deall y broblem hon a’r bygythiad peryglus y mae’n ei achosi, ni all ein gwlad ddioddef ymosodiadau erchyll gan bobl sydd yn credu yn unig mewn jihad, nad oes ganddyn nhw synnwyr o reswm neu barch at fywyd dynol,” meddai Donald Trump.

Fe fyddai ei gynlluniau yn cynnwys mewnfudwyr ac ymwelwyr Mwslimaidd i’r Unol Daleithiau.

Daeth ei sylwadau yn sgil ymosodiad ar ganolfan gwasanaethau cymdeithasol yng Nghaliffornia wythnos ddiwethaf pan gafodd 14 o bobl eu lladd. Credir bod gan y cwpl a oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad dueddiadau eithafol.

Mae’r ymgeiswyr Gweriniaethol eraill ac aelodau’r blaid wedi beirniadu sylwadau Donald Trump.