Symud pobl o'u cartrefi yn sgil y llifogydd
Mae miloedd o gartrefi yng ngogledd Lloegr heb gyflenwad trydan o hyd ar ôl y llifogydd a ddaeth yn sgil Storm Desmond.

Cafodd miloedd o gartrefi a busnesau eu heffeithio ar ôl i law trwm a gwyntoedd cryfion achosi llifogydd difrifol.

Mae tri o bobl wedi marw yn sgil y llifogydd.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd difrifol am law trwm unwaith eto’r wythnos hon yng ngogledd Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bu’r Prif Weinidog David Cameron yn ymweld â rhai o’r ardaloedd a gafodd eu heffeithio waethaf yn Cumbria ddoe.