Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chyllideb  ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf heddiw.

Fe fydd pwyslais ar y gwasanaeth iechyd fel rhan o’r gyllideb ac, yn ôl BBC Cymru, fe fydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £260 miliwn yn fwy ar iechyd yng Nghymru yn ystod 2016 – 2017.

Daw hyn yn sgil y cyllid ychwanegol i’r gwasanaeth iechyd yn Lloegr, sy’n golygu y bydd mwy o gyllid ar gael i Lywodraeth Cymru ei wario ar iechyd hefyd.

Golyga hyn y bydd bron i 48% o gyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei wario ar iechyd, y canran uchaf ers datganoli.

Mae BBC Cymru hefyd ar ddeall na fydd llywodraeth leol yn wynebu toriadau mor llym â’r flwyddyn ddiwethaf.

Fe fydd manylion y gyllideb yn cael eu cyhoeddi’n llawn y prynhawn yma, a dyma fydd cyllideb olaf y Prif Weinidog, Carwyn Jones, cyn etholiadau’r Cynulliad ym mis Mai.

‘Hwb i wariant iechyd’

Wrth siarad cyn y gyllideb, fe bwysleisiodd Llefarydd Cyllid y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, fod angen i Lywodraeth Cymru “roi mwy o hwb i wariant ar iechyd yng Nghymru.”

“Cymru yw’r unig ran o’r DU lle nad yw gwariant y GIG wedi’i amddiffyn, ac mae toriadau Llafur yng Nghymru wedi taro staff a chleifion yn galed, gan dorri’n ôl ar welyau, israddio gwasanaethau a chreu cynnydd mewn amseroedd aros.

“Ry’n ni am weld y gyllideb iechyd yn cael ei gwarchod yma yng Nghymru,” meddai Nick Ramsay, cyn ychwanegu na fydd  “y cyhoedd yng Nghymru yn goddef y gwasanaeth iechyd sy’n cael ei ariannu waethaf yn y DU.”