E-sigaret
Mae llythyr, sy’n rhybuddio yn erbyn gwahardd e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig, wedi cael ei gyflwyno i Aelodau Cynulliad cyn y drafodaeth ar y Bil Iechyd Cyhoeddus heddiw.

Mae Llywodraeth Cymru am wahardd pobol rhag ysmygu e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig ond yn ôl yr arbenigwyr, gallai hyn gael effaith negyddol ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru.

“Does dim tystiolaeth i gyfiawnhau’r ddeddfwriaeth… ac os bydd yn cael ei phasio, byddai’n annog smygwyr i beidio â newid o smygu i e-sigarennau, gan gael effaith negyddol ar iechyd cyhoeddus yng Nghymru,” meddai’r llythyr ar y cyd gan 12 o arbenigwyr iechyd.

Mae’r enwau sydd ar y llythyr yn cynnwys arbenigwyr ym maes iechyd o Goleg Imperial Llundain, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Rhydychen a’r Ganolfan Genedlaethol dros ddod â smygu i ben.

Galw ar ACau i ystyried yn ‘ofalus’

Mae’r llythyr yn galw ar Aelodau Cynulliad i ystyried y cynnig i wahardd e-sigarennau’n ‘ofalus’, gan y gallai greu “rhwystrau diangen i smygwyr symud o smygu i opsiwn arall llai niweidiol.”

Roedd adroddiad diweddar Iechyd Cyhoeddus Lloegr sy’n dangos fod e-sigarennau 95% yn llai niweidiol na chynnyrch tybaco.

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi bod yn feirniadol o’r cynnig gan ddweud y byddai’n tanseilio ymdrechion smygwyr i roi’r gorau iddi.

“Dylai Llywodraeth Llafur Cymru wrando ar gyngor yr arbenigwyr hyn,” meddai Darren Millar AC, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.

“Byddai cyflwyno’r gwaharddiad hwn yn gam enfawr yn ôl i ddod â smygu i ben ac ymdrechion i wella iechyd cyhoeddus.

“Dylwn ni fod yn rhoi help llaw i bobol roi’r gorau i smygu – nid gosod rhwystrau yn eu ffordd.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

“Mae ein Bil yn ceisio cyfyngu’r defnydd o e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus caeedig gan eu gwneud yn unol â sigarennau confensiynol,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.

“Bydd ein cynnig yn sicrhau bod smygu yn parhau i gael ei ddad-normaleiddio, fel sydd wedi digwydd ers y gwaharddiad smygu, yn enwedig ar gyfer cenhedlaeth sydd wedi tyfu mewn cymdeithas ddi-fwg yn bennaf.

“Mae’r cynlluniau yn seiliedig ar dystiolaeth o ledled y byd, gan gynnwys ymchwil academaidd. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain, gweithwyr proffesiynol iechyd cyhoeddus ac eraill yn cefnogi ein cynigion, tra bod Sefydliad Iechyd y Byd a chyrff rhyngwladol eraill wedi galw am ragor o reoleiddio ar e-sigarennau.

“Mae 40 o wledydd eraill wedi cymryd camau tebyg.”