Mae prifddinas China wedi derbyn rhybudd coch am fwrllwch heddiw, ac mae disgwyl iddo barhau am dridiau.
Dyma’r eildro’r mis hwn i Beijing dderbyn rhybudd o’r fath, ac mae’r ddinas yn adnabyddus am ei lefel uchaf o lygredd.
Er hyn, y rhybudd coch yw’r rhybudd mwyaf difrifol, ac mae awdurdodau’r ddinas yn annog ysgolion i gau, ac maen nhw’n gosod cyfyngiadau ar ffatrïoedd a thraffig er mwyn haneru nifer y cerbydau sydd ar y ffyrdd.
Dy’n nhw ddim yn disgwyl i’r mwrllwch glirio tan ddydd Iau.
Yn ôl adroddiadau, roedd mesuriadau’r gronynnau PM 2.5 wedi cyrraedd 300 microgram pcm, o gymharu â lefel diogel Sefydliad Iechyd y Byd sy’n 25.
Mae diwydiannau glo, allyriadau cerbydau, gwaith adeiladu a ffatrioedd yn cael eu hystyried i fod yn gyfrifol am gyfrannu at y mwrllwch.