Mae Heddlu’r Gogledd wedi cyhoeddi enw merch 18 oed a gafodd ei lladd ar ôl cael ei tharo gan gar ar yr A5 yn Llangollen.

Bu farw Katie Griffiths, 18 oed, o ardal Rhiwabon ar ôl iddi fod mewn gwrthdrawiad a char Seat Leon du wrth iddi gerdded ar ochr y ffordd, am tua 11yh, nos Wener 4 Rhagfyr.

“Mae’r Heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiad a hoffwn glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac a welodd y gwrthdrawiad neu’r hyn a ddigwyddodd cyn y gwrthdrawiad,” meddai’r Rhingyll Jane Thomas o Heddlu’r Gogledd.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio Uned Plismona’r Ffyrdd yng Nglannau Dyfrdwy ar 101 a dyfynnu’r cyfeirnod S185445.

Neu gallwch ffonio Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555111 neu gysylltu â’r ystafell reoli’n uniongyrchol drwy ddefnyddio’r cyfleuster sgwrsio ar-lein newydd.