Cloddio cerrig glas yng Nghraig Rhos-y-Felin, Sir Benfro
Mae adroddiadau newydd yn dangos y gallai rhai o gerrig Côr y Cewri fod wedi dod o Gymru yn wreiddiol.
Mae daearegwyr ac archeolegwyr wedi enwi dau gwarel yn sir Benfro fel lleoliadau craidd i’r cerrig sydd i’w gweld yng Nghôr y Cewri yn Wiltshire, Lloegr – dros 140 milltir i ffwrdd.
Mae’r cysylltiad rhwng cylch mewnol Côr y Cewri a ‘cherrig glas’ mynyddoedd y Preseli wedi bod yn amlwg ers yr 1920au.
Ond dyma’r tro cyntaf i’r union leoliadau gael eu henwi.
Yn dilyn cyfnod o gloddio yn yr ardal dros yr haf, mae tîm o archeolegwyr a daearegwyr wedi cadarnhau mai Garn Goedog a Chraig Rhos-y-felin ar fynyddoedd y Preseli yw’r lleoliadau hynny.
Fe gyhoeddwyd yr ymchwil gan gymdeithas archaeolegol Antiquity, ac mae wedi’i gynnal gan dîm o Goleg Prifysgol Llundain, sy’n cynnwys gwyddonwyr o Brifysgol Manceinion, Bournemouth, Southampton, Amgueddfa Genedlaethol Cymru ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed.
Fe ddywedodd Colin Richards o Brifysgol Manceinion, sy’n arbenigo mewn cwareli Neolithig, y gallai’r lleoliadau hyn “fod yn lleoliadau pwysig i bobl cynhanesyddol.”
‘Gwyrdroi’r syniad’
Mae’r dystiolaeth newydd yn gwyrdroi’r syniad fod y cerrig glas wedi’u cludo i’r de o’r Preseli a thuag at Aberdaugleddau cyn eu cludo ar gwch i Gôr y Cewri.
“Yr unig gyfeiriad rhesymegol i’r cerrig glas fyddai cael eu cario tua’r gogledd, un ai gyda’r môr o gylch Tyddewi, neu i’r dwyrain a thros y tir a thrwy’r cymoedd sydd bellach yn llwybr i’r A40,” meddai’r Athro Mike Parker Pearson, Cyfarwyddwr y Prosiect.
“Yn bersonol, rwy’n meddwl ei fod e’n fwy posib eu bod nhw wedi’u cario dros y tir.”
Fe esboniodd fod yr 80 o feini hirion yn pwyso llai na 2 dunnell, ond “ry’n ni’n gwybod o enghreifftiau tebyg yn yr India a rhannau eraill o Asia fod cerrig o’r maint hyn yn bosib eu cludo ar ddelltau pren gan grwpiau o 60 o bobl.”
Ymateb lleol
Mae’r gymuned leol yn ardal y Preseli yn gyffrous iawn am y cyhoeddiad ac wedi bod yn gwylio’r datblygiadau drwy’r haf.
“Mae’r prosiect hwn yn gyfraniad arbennig i’n gwybodaeth o bwysigrwydd cynhanesyddol y Parc Cenedlaethol,” meddai Phil Bennett ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.
Fe fu’r tîm wrthi drwy’r haf yn cynnal arolygon daearegol, cloddfeydd, a thynnu ffotograffau o’r awyr, ac mae disgwyl cloddio pellach yn 2016.
“Mae’r canlyniadau’n addawol – ac efallai y gwnawn ni chwilio rhywbeth mawr yn 2016,” meddai’r Athro Kate Welham o Brifysgol Bournemouth.