Stuart Bates, a'i fab Fraser
Mae Heddlu’r De wedi cyhoeddi enwau’r tad a mab fu farw ar ôl cael eu taro gan gar ddydd Sul yn Nhonysguboriau.

Roedd Stuart Bates, 43 oed,  yn byw yn Llanisien yng Nghaerdydd ac yn rheolwr rhaglen technoleg yng Nghaerffili. Roedd ei fab Fraser, 7 oed, yn ddisgybl ym mlwyddyn 2 yn Ysgol Gynradd Llysfaen.

Bu farw Stuart Bates yn fuan wedi’r gwrthdrawiad  nos Sul, 6 Rhagfyr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac roedd Fraser wedi marw’n ddiweddarach yn Ysbyty Plant Bryste.

Mae Stuart Bates yn gadael gwraig,  Anna-Louise Bates, a merch 3 oed, Elizabeth.

Bydd yr angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Martin yn y Rhath, Caerdydd. Dyw’r dyddiad heb gael ei bennu eto.

 

Arestio a rhyddhau person ar fechnïaeth

Mae gyrrwr y car Alfa Romeo, dyn 22 oed, wedi cael ei arestio a’i ryddhau ar fechnïaeth yn ôl yr heddlu.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â’r Swyddfa’r Heddlu yng Ngwaelod y Garth ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan ddyfynnu 1500450190.

Maen nhw’n awyddus i siarad â thystion a allai fod wedi gweld y cerbyd yn yr ardal tua’r un amser a ddigwyddodd y gwrthdrawiad.