Yr Arglwydd Janner
Mae barnwr yn yr Uchel Lys wedi dyfarnu nad yw’r Arglwydd Janner yn ddigon iach i sefyll ei brawf yn sgil cyfres o honiadau o droseddau rhyw yn erbyn bechgyn.
Fe wnaeth Mr Ustus Openshaw ei benderfyniad yn seiliedig ar adroddiadau meddygol ynglŷn â chyflwr iechyd yr Arglwydd Janner, sy’n 87 oed ac yn dioddef o ddementia.
Dywedodd y barnwr na fyddai’r Arglwydd Janner yn gallu deall y cyhuddiadau yn ei erbyn na chyflwyno ple.
Mewn gwrandawiad ym mis Hydref dywedodd cyfreithwyr ar ran yr erlyniad a’r diffynnydd eu bod yn cytuno nad oedd Greville Janner yn ddigon iach i sefyll ei brawf.
Mae Janner wedi’i gyhuddo o 22 o droseddau rhyw yn dyddio nôl i’r 1960au yn erbyn naw o ddioddefwyr honedig. Roedd y rhan fwyaf o dan 16 oed ar y pryd.
Nid oedd rhaid i Janner fynd i’r llys heddiw ac fe fydd gwrandawiad pellach ar 7 Mawrth.