Rhun ap Iorweth AC a Hywel Williams AS yn y cyfarfod
Mae’r cyfnod ymgynghori ar gyfer cynllun y Grid Cenedlaethol i godi peilonau ar draws Ynys Môn yn cau ymhen wythnos, ar Ragfyr 16.
Dros y penwythnos, fe gynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yng Ngaerwen gyda 150 o bobl yn tyrru ynghyd i fynegi eu pryderon am gynllun dadleuol y Grid.
Ers 2012, mae’r Grid Cenedlaethol wedi bod yn ystyried codi llwybr o beilonau ar draws yr ynys, ond mae’r ymateb yn lleol wedi bod yn chwyrn.
Fe ail-agorwyd y cyfnod ymgynghori ym mis Hydref eleni, ac ymhen wythnos fe fydd y cynllun yn cael ei gyflwyno gerbron Llywodraeth Prydain.
Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth Prydain dros Ynni a Newid Hinsawdd, Amber Rudd, fydd â’r gair olaf am ddyfodol y cynllun wedi hynny.
‘Sarhad’
Fe gafwyd nifer o siaradwyr yn ystod y cyfarfod cyhoeddus, gan gynnwys AC Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth a ddywedodd: “Mae’n hollol annerbyniol fod rhaid i Ynys Môn dalu’r pris am y peilonau hyn.”
Fe ychwanegodd fod “y gost y mae’r Grid yn cyfeirio ato yn llwyr ddiystyru’r gost ar ein hamgylchedd, ein heiddo, a’r gost ar ein twristiaeth yma yn Ynys Môn.”
Yn cadeirio’r cyfarfod oedd Dafydd Idriswyn Roberts, Cadeirydd mudiad Unllais Cymru Môn, a alwodd y cynllun yn “sarhad sy’n gyfystyr â’r anghyfiawnder a fu ar Dryweryn.”
‘Diffyg ymgynghori’
Mae ymgyrchwyr lleol yn teimlo na wnaeth y Grid ymgynghori ddigon am y cynllun, gyda Hywel Williams, AS Arfon, yn dweud bod “diffyg ymgynghori lle nad yw ein lleisiau’n cyfrif. Mae yna broblem ehangach hefyd yn y modd caiff ein gwlad ei rhedeg a sut rydym ni am reoli ein sector ynni.”
Cyfeiriodd Mark Isherwood, AC Gogledd Cymru, at y “cysylltiad posib” rhwng peilonau â mathau gwahanol o gancr.
Ar ran yr undebau amaethyddol, fe fynegodd Wil Edwards, NFU, ei bryder am yr effaith ar dwristiaeth a Twm Jones, UAC, yn dweud fod angen “i’r gymuned gyfan sefyll gyda’i gilydd i wrthwynebu’r peilonau.”
Ceblau tanddaearol
Mae ymgyrchwyr lleol wedi galw ar y Grid i gefnu ar y cynlluniau i godi peilonau ar draws yr ynys, ac maen nhw’n ffafrio cynllun arall i adeiladu ceblau tanfor rhwng yr ynys â Glannau Mersi.
Fe anfonodd Aelod Seneddol Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans, neges o gefnogaeth at yr ymgyrchwyr.
Fe ddywedodd ei bod hi wedi ailedrych ar y broses o osod ceblau tanddaearol gan ddod i ddeall “sawl peth a fydd o ddiddordeb i’r ymgyrch.”
“Y cyntaf yw bod technoleg yn y maes hwn yn prysur wella ac o’r herwydd yn dod yn llai costus,” esboniodd gan ddweud nad yw’r ddadl dros gostau ariannol y ceblau yn ‘rhesymol’.
“Yr ail yw bod yna symudiadau ledled Ewrop i roi terfyn ar y defnydd o beilonau er mwyn ffafrio ceblau. Mae’r Almaen, er enghraifft ar fin pasio deddf a fydd yn sicrhau fod unrhyw brosiect ynni o hyn ymlaen yn troi at ddefnyddio ceblau yn awtomatig. Penderfyniad cymunedau fydd hi i ddefnyddio peilonau yn eu lle.”
Mae’r cyfnod ymgynghori yn dod i ben ar Ragfyr 16, ac wedi hynny fe fydd Aelod Seneddol Ynys Môn, Albert Owen, yn cyflwyno’r materion i’r Senedd.