Mae’r heddlu fu’n chwilio am ddyn oedrannus, y credir oedd wedi disgyn i Afon Caint yn ystod llifogydd yn Cumbria, wedi dod o hyd i gorff.

Mae timau arbenigol yn ceisio tynnu’r corff o’r dŵr yn ardal Kendal, meddai Heddlu Cumbria.

Cafodd swyddogion eu galw yn dilyn adroddiadau bod y dyn wedi syrthio i’r afon a oedd wedi gorlifo’i glannau toc wedi 10yb ddydd Sul.

Fe fu’r Prif Weinidog, David Cameron, yn cadeirio cyfarfod brys Cobra i drafod y llifogydd bore ma ac fe gyhoeddodd Downing Street y bydd yn ymweld a’r ardaloedd sydd wedi cael eu heffeithio waethaf gan Storm Desmond dros y penwythnos.

Mae Llywodraeth Prydain wedi’u beirniadu, wedi iddyn nhw wario miliynau mewn amddiffynfeydd atal llifogydd yn yr ardal yn dilyn llifogydd difrifol yn 2005. Ond, mae Cumbria wedi profi’r dilyw unwaith eto.

Mae swyddogion y Fyddin yn parhau i wasanaethu yno heddiw, wedi iddyn nhw gael eu galw i Gaerliwelydd ddoe i gefnogi gwaith y gwasanaethau brys wrth symud pobol o’u cartrefi. Mae’n debyg bod 7,000 o gartrefi yn dal heb gyflenwad trydan yno.

Cymru

Yng Nghymru mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhyddhau dau rybudd coch am lifogydd i ddwy ardal yn y gogledd, sef Dyffryn Conwy a Dyffryn Dyfrdwy Isaf rhwng Llangollen a Dolydd Trefalun.

Mae chwe rhybudd oren am lifogydd wedi’u rhyddhau i rannau eraill o Gymru.