Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon yn rhybuddio fod yr amseroedd aros yng Nghymru yn “annerbyniol” ac “angen eu datrys”.
Mae’r adroddiad yn galw am weithredu brys i wella’r mynediad at lawfeddygaeth ar draws Cymru gan nodi fod 450,000 o bobl yn aros am driniaeth ar hyn o bryd. Mae hynny 10% yn uwch na thair blynedd yn ôl, ac yn golygu bod 1 o bob 7 o bobl ar restr aros.
Yn ôl yr adroddiad, mae nifer y cleifion sy’n aros dros 26 wythnos am driniaeth yng Nghymru wedi codi dros 70% ers Medi 2011.
Mae’r adroddiad yn rhoi pwysau ar y pleidiau gwleidyddol i wella amseroedd aros yng Nghymru fel un o’u polisïau ar gyfer Etholiad y Cynulliad 2016.
‘Annerbyniol’
Yn yr adroddiad, fe ddywedodd Tim Havard, Cyfarwyddwr Materion Proffesiynol Cymru Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, fod gan Gymru “ddyfeisiau llawfeddygol i fod yn falch ohonynt.”
Fe ychwanegodd fod mwy o bobl yn byw yn hŷn o ganlyniad i’r gofal maen nhw’n ei gael, a bod Arolwg Cenedlaethol diweddar yn dangos lefel uchel o fodlonrwydd gyda’r Gwasanaeth Iechyd.
Er hyn, mae’n nodi fod angen gwneud mwy i fynd i’r afael ag amseroedd aros sy’n gwaethygu yng Nghymru.
“Mae achosion o gleifion yn aros am fwy na blwyddyn i gael llawdriniaeth ar y ben-glin yn annerbyniol,” meddai.
Eto i gyd, roedd Tim Havard yn cydnabod fod yr achosion dros yr amseroedd aros “yn ddyrys, ac na ellir eu datrys dros nos.”
Fe ddywedodd fod rhaid i’r “gwasanaeth iechyd newid a gwella’r ffordd y mae’n darparu gwasanaethau. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi blaenoriaethu ail-gyflunio’r gwasanaethau yn gywir, ond mae’r newid yn rhy araf mewn sawl gwasanaeth.”
Roedd argymhellion eraill yr adroddiad yn cynnwys cynyddu’r nifer o welyau sydd ar gael i gleifion gofal dwys, a sicrhau system gliriach o arolygiaeth a phwysau allanol ar y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.
Ychwanegodd Tim Havard fod adroddiad diweddar Llywodraeth Cymru yn dangos fod gan Gymru’r nifer isaf o welyau trwy Ewrop ar gyfer cleifion gofal dwys.
‘Sgandal cenedlaethol’
Mewn ymateb i’r adroddiad, fe ddywedodd Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr, Darren Millar fod hyn yn “sgandal cenedlaethol.”
“Dyma dystiolaeth bellach fod cleifion Cymru yn cael bargen wael,” meddai gan esbonio mai dim ond 6% o boblogaeth Lloegr sydd ar restr aros, o gymharu â 15% yng Nghymru.
“Mae toriadau Llafur i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd – nad sydd i’w gweld yn unman arall yn y DU – yn gadael eu hôl. Mae staff sy’n gweithio’n galed o dan bwysau aruthrol, ac mae gwasanaethau’r rheng flaen yn cael eu taro’n galed,” meddai.
“Mae angen i Weinidogion Llafur gymryd camau i wella’r perfformiad fel bod cleifion yn cael eu gweld o fewn yr amser.”