Marine Le Pen
Fe fydd trigolion yn Ffrainc yn ethol arweinwyr rhanbarthol mewn etholiadau ddydd Sul, dair wythnos yn unig wedi’r ymosodiadau brawychol ym Mharis.

Mae disgwyl i’r Front National fanteisio ar y gyflafan ym Mharis a niferoedd cynyddol o ffoaduriaid sy’n ymsefydlu yn y wlad wrth iddyn nhw geisio cynyddu nifer eu seddi.

Fe allai’r digwyddiadau diweddar gael cryn effaith ar rym y llywodraeth Sosialaidd.

Mae arweinydd y Front National, Marine Le Pen wedi cyhoeddi ei bwriad i ymgeisio ar gyfer arlywyddiaeth y wlad yn 2017, ac mae hithau’n ymgeisydd yn rhanbarth Nord-Pas-de-Calais-Picardie, lle mae ffoaduriaid wedi bod yn ymgasglu cyn symud ymhellach i mewn i Ewrop.

Er bod poblogrwydd yr arlywydd presennol, Francois Hollande wedi cynyddu’n ddiweddar, mae cefnogaeth i’w blaid wedi gostwng.

Fe fydd ail rownd yr etholiad yn cael ei chynnal ar Ragfyr 13.