Fe fydd gwasanaeth yn cael ei gynnal fore Sul i goffáu 16 o ddynion a bechgyn a gafodd eu lladd mewn trychineb glofaol yng nghyffiniau Caerdydd 140 o flynyddoedd yn ôl.

Y ffrwydrad yn y Llan yng Ngwaelod-y-Garth ger Pentyrch oedd y trychineb glofaol gwaethaf yn 1875.

Roedd y pwll glo yn darparu glo i weithfeydd haearn a briciau yn yr ardal.

Roedd bachgen 12 oed ymhlith y rhai a gafodd eu lladd.

Daeth ymchwiliad i’r casgliad mai diffyg awyru digonol oedd wedi achosi’r digwyddiad, a bod un o reolwyr y pwll wedi bod yn esgeulus.

Cafodd ymgyrch ei sefydlu yn 2012 i godi cofeb yn y pentref, ac fe gafodd ei dadorchuddio gan gyn-Brif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan.

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Ngwaelod-y-Garth am 11 o’r gloch.