Fe fydd Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama yn annerch y genedl heddiw yn dilyn ymosodiad yng Nghaliffornia a laddodd 14 o bobol.

Yn ei anerchiad o’r Oval Office, fe fydd Obama yn amlinellu’r camau y mae ef a’i lywodraeth yn cymryd i adfer heddwch a diogelwch yn dilyn y digwyddiad mewn canolfan i bobol ag anableddau.

Cafodd 21 o bobol eu hanafu yn y digwyddiad.

Yn ystod ei anerchiad, fe fydd Obama yn trafod y bygythiad ehangach y mae brawychwyr yn ei greu a sut y mae’n bwriadu trechu eithafwyr Islamaidd.

Fe fydd Obama yn dweud bod rhaid trechu Daesh gan ddefnyddio gwerthoedd traddodiadol yr Unol Daleithiau – ymrwymiad i gyfiawnder, cydraddoldeb a rhyddid.