Cafodd dyn 90 oed ei ladd yng ngogledd Llundain nos Sadwrn wrth iddo gael ei wthio gan wyntoedd cryfion i lwybr bws.

Dywedodd yr heddlu bod y dyn yn cerdded ar balmant yn Finchley pan gafodd ei wthio oddi ar ei draed a’i daro gan y cerbyd.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Gorsaf Ganolog Finchley am 12.35 brynhawn Sadwrn, ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.

Yn y cyfamser, mae swyddogion yn Swydd Cumbria wedi cyhoeddi bod argyfwng yn y sir yn sgil llifogydd a gafodd eu hachosi gan Storm Desmond.