Mae Daesh wedi hawlio cyfrifoldeb am ffrwydrad sydd wedi lladd llywodraethwr yn yr Yemen a chwech o’i swyddogion diogelwch.

Roedd llywodraethwr talaith Aden, Gafaar Mohamed Saad yn teithio i’w swyddfa pan ddigwyddodd y ffrwydrad yn ardal Rimbaud.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

Cafodd gwrthryfelwyr Shiaidd eu gyrru o’r ardal yn gynharach eleni gan y llywodraeth, ac mae al Qaida wedi meddiannu rhannau helaeth o dde a dwyrain y wlad.

Hwn oedd yr ail ymosodiad yn y dalaith ddydd Sadwrn, wedi i ymosodwyr ar feiciau modur dargedu cerbydau yn Aden, gan ladd y swyddog cudd-wybodaeth Aqeel al-Khodr a’r barnwr Mohsen Alwan, oedd yn flaenllaw wrth ddedfrydu aelodau o al-Qaida.