Mae diffoddwyr yn parhau i frwydro yn erbyn fflamau yn nociau Casnewydd wedi i 250,000 tunnell o goed fynd ar dân nos Sadwrn.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ardal Dociau Alexandra am 8 o’r gloch nos Sadwrn.
Ymatebodd pedwar o injanau tân i’r digwyddiad, ac fe fuon nhw ar y safle dros nos.
Mae trigolion lleol wedi cael rhybudd i gau eu ffenestri am y tro.