Nick Bennett, yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus
Mae’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus wedi mynegi ei “siom” ynghylch sylwadau’r ymgyrchydd iaith, Dr Simon Brooks yn dilyn ffrae tros benderfyniad cyngor cymuned i gyhoeddi deunydd uniaith Gymraeg.
Dywedodd Dr Brooks fod yr Ombwdsmon, wrth gyhoeddi ei adroddiad, yn hyrwyddo math o ddwyieithrwydd sy’n “llofruddio’r Gymraeg”, ac fe gyhuddodd yr Ombwdsmon o “gamwahaniaethu” yn erbyn y Gymraeg.
Dywedodd fod penderfyniad yr Ombwdsmon yn “ddieflig”, ac y dylai Cyngor Cymuned Cynwyd gael yr hawl i weithredu’n uniaith Gymraeg os nad yw pob cyngor cymuned yng Nghymru’n gorfod gweithredu’n ddwyieithog.
Dywedodd Dr Brooks: “Camwahaniaethu ydi hyn gan mai’r unig gynghorau sy’n cael eu gorfodi ydi cynghorau sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg.
“Beth mae hyn yn ei brofi, ydi ein bod yn rhoi hawl absoliwt i siaradwyr Saesneg ar draul siaradwyr Cymraeg.”
Roedd y ffaith fod y gŵyn wedi dod gan berson o’r tu allan i ardal y cyngor yn awgrymu bod hawl gan unrhyw siaradwr Saesneg i fynnu gwasanaeth Saesneg gan bob corff ymhobman, meddai.
‘Angen cysondeb’
Fe gafodd Simon Brooks gadarnhad gan Gomisiynydd y Gymraeg nad oedd cynghorau cymuned wedi eu cynnwys eto o dan y safonau iaith newydd.
“Mae’n rhaid cael cysondeb diriogaethol yng Nghymru sy’n galluogi i bobol gael yr un hawliau mewn gwlad honedig ddwyieithog,” meddai.
“Os nad ydi pob cyngor cymuned trwy Gymru yn gorfod bod yn ddwyieithog, mi ddylsai cynghorau cymuned Cymraeg gael rhwydd hynt i barhau yn Gymraeg heb gael eu bygwth fel hyn.
“Mae’r cynsail mae’r Ombwdsmon wedi ei osod sy’n gosod cyfrifoldebau ar gynghorau Cymraeg yn unig yn un y bydd yn rhaid ei wyrdroi.”
Ymateb yr Ombwdsmon
Dywedodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Nick Bennett fod sylwadau Dr Simon Brooks yn “ymfflamychol” a’u bod yn “peri siom”.
Dywedodd wrth Golwg360: “Mae sylwadau ymfflamychol Simon Brooks yn peri siom imi – mae ganddo ormod o amser ar ei ddwylo mae’n amlwg.
“Yr unig beth rydw i wedi gofyn amdano ydi bod Cynwyd yn llunio agenda dwyieithog, ac rydw i’n llwyr gefnogi cynnal cyfarfodydd Cynghorau Cymuned yng Nghymraeg.
“Mae fy hanes o ran fy mywyd personol ac mewn bywyd cyhoeddus yn dangos cefnogaeth lwyr i’r Gymraeg.
“Rydw i’n siarad Cymraeg yn rhugl, wedi priodi gyda rhywun arall sy’n siarad Cymraeg yn rhugl a gyda’n gilydd rydym wedi magu tri o blant sy’n siarad Cymraeg yn rhugl.
“Blynyddoedd lawer yn ôl, fel Ymgynghorydd Arbennig i Weinidog Diwylliant Llywodraeth Cymru, fe wnes i chwarae rhan allweddol yn llunio polisi Iaith Pawb a’r cynnydd enfawr yn y cyllid i’r Gymraeg ar y pryd.
“Rydw i’n awyddus iawn i’r Gymraeg ffynnu a’n bod yn gweld mwy, nid llai, o achosion ohoni’n cael ei ddefnyddio yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned, ond nid yw hyn yn anghyson â darparu agendâu dwyieithog.”