Cafodd dyn 43 oed ei ladd pan gafodd ei daro gan gar wrth groesi’r ffordd yn Nhonysguboriau ger Pontyclun fore Sul.

Roedd y dyn yn cerdded gyda’i fab saith oed pan gafodd y ddau eu taro gan gar Alfa Romeo.

Cafodd y ddau eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg, lle bu farw’r dyn. Mae’r bachgen bach mewn cyflwr difrifol.

Digwyddodd y gwrthdrawiad wrth fynedfa siop Arthur Llewellyn Jenkins.

Cafodd gyrrwr 22 oed y car ei arestio ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae Heddlu’r De wedi apelio am wybodaeth.