Mae adroddiadau bod dynes wedi cael ei radicaleiddio cyn iddo gymryd rhan mewn ymosodiad brawychol a laddodd 14 o bobol yng Nghaliffornia.

Roedd Tashfeen Malik wedi bod yn gwisgo gwisg draddodiadol ac yn gorchuddio’i hwyneb wrth i’w ffydd gryfhau, meddai cydnabod iddi ym Mhacistan.

Ond mae union amgylchiadau’r gyflafan yn ardal San Bernadino yr wythnos hon yn parhau’n ddirgelwch am y tro.

Honnir bod Malik wedi cyhoeddi ei chefnogaeth i Daesh ar wefan gymdeithasol Facebook.

Ond ar hyn o bryd, mae cyfres o gwestiynau heb eu hateb:

– Sut, pryd a ble y cafodd y cwpwl eu radicaleiddio?

– A oedden nhw wedi bod mewn cyswllt gydag eithafwyr cyn yr ymosodiad?

– A oedd yr awdurdodau wedi methu cyfle i sylwi unrhyw beth amheus am Malik cyn roi fisa iddi?

– Pa un o’r ddau oedd wedi cynllwynio’r ymosodiad?

Mae academydd blaenllaw yn Boston wedi dweud y dylai’r ymosodiad arwain at newid y ffordd y mae pobol yn meddwl am eithafwyr.

Dywedodd Natana DeLong-Bas: “Ry’n ni bob amser yn dueddol o gymryd mai dyn yn unig allai gynnal ymosodiad brawychol.

“Oherwydd ein bod ni’n gwybod cyn lleied am Tashfeen Malik, mae’n bosib mai hi oedd prif drefnydd y digwyddiad hwn a’i bod hi wedi annog ei gŵr i’w wneud.”

Cafodd y ddau eu lladd gan yr heddlu oriau wedi’r ymosodiad.

Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau, Barack Obama annerch y genedl yn ystod y dydd wrth i ymchwiliad yr FBI barhau.

Mae lle i gredu eu bod nhw eisoes wedi cynnal cyrch ar gartref cymydog lle cafodd arfau eu darganfod.

Dydy perchennog y tŷ ddim yn cael ei amau o fod yn gyfrifol am yr ymosodiad hwn, ond mae’r awdurdodau’n awyddus i’w holi.