Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i achos o drywanu mewn gorsaf danddaearol yn nwyrain Llundain yn trin y digwyddiad fel ymosodiad brawychol.
Cafodd dyn 56 oed anafiadau difrifol yn yr ymosodiad yn Leytonstone nos Sadwrn, ond mae lle i gredu nad yw ei fywyd mewn perygl, a chafodd dau o bobol eraill eu hanafu yn y digwyddiad.
Honnir bod dyn 29 oed yn cario machete drwy’r orsaf wrth iddo waeddu “Ar gyfer Syria mae hyn”.
Defnyddiodd yr heddlu wn Taser i’w dawelu yn dilyn yr ymosodiad, cyn iddo gael ei arestio a’i holi yn y ddalfa.
Mewn fideo ar y we, mae modd gweld gwaed ar y llawr wrth i’r dyn fygwth nifer o deithwyr yn yr orsaf.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Llundain: “Rydyn ni’n trin hwn fel digwyddiad brawychol.”
Ychwanegodd fod y perygl o ymosodiad brawychol yn parhau’n uchel.
Dywedodd llefarydd ar ran 10 Downing Street bod ymchwiliad ar y gweill a’u bod nhw’n monitro’r datblygiadau.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.
Ar ei dudalen Twitter, dywedodd arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn fod ei “feddyliau gyda’r dioddefwr a’i deulu”.