Afon Conwy yn Llanrwst brynhawn heddiw (lun: Huw Prys Jones)
Mae rhannau helaeth o ogledd Cymru’n dal i ddioddef effeithiau storm Desmond, ar ôl bron i 24 awr o law trwm.

Daw adroddiadau fod afon Conwy bellach wedi gorlifo ei glannau ar dir amaethyddol islaw Llanrwst, gyda lefel y dŵr hyd at 3 metr o ddyfnder mewn mannau.

Mae’n un o ddwy ardal yn y gogledd – dyffryn Dyfrdwy islaw Llangollen yw’r llall – lle mae rhybudd llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru mewn grym. Mae 11 o rybuddion melyn – rhai llai difrifol – mewn grym ym Môn, Gwynedd, Powys a Sir Benfro.

Dywed Scottish Power, sydd wrthi’n ceisio adfer cyflenwad trydan i gannoedd o gartrefi, fod llifogydd yn llesteirio eu gwaith.

Paratoi at argyfwng

Mae’r sefyllfa’n llawer gwaeth yn Cumbria yng ngogledd-orllewin Lloegr, lle mae’r heddlu’n paratoi at argyfwng yn sgil y glaw trwm.

Mae trigolion mewn rhai ardaloedd yno wedi cael eu gyrru o’i tai, wrth i’r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybuddion coch – ei rhybudd mwyaf difrifol – o dywydd garw ar gyfer rhannau o’r Alban a gogledd-orllewin Lloegr.

Mae rhybuddion melyn mewn grym yng ngweddill yr Alban a gogledd Lloegr, gogledd Iwerddon, a hanner gogleddol Cymru.

Yn y cyfamser, mae hen ŵr wedi marw yn Llundain wrth i chwa cryf o wynt ei chwythu i ochr bws a oedd yn symud.

Mae timau o’r Groes Goch wedi sefydlu canolfannau yn Keswick, Appleby a Kendal yn Cumbria i helpu pobl sydd wedi gorfod symud o’u tai, ac mae llawer o ffyrdd wedi bod ar gau yn yr Alban a gogledd Lloegr am ran helaeth o’r dydd.