Buddugwr is-etholiad Oldham, Jim McMahon a'i bartner Charlene (llun:PA)
Huw Prys Jones yn edrych yn ôl ar wythnos gythryblus i’r Blaid Lafur

Go brin y gall neb warafun i Jeremy Corbyn lawenhau ym muddugoliaeth ysgubol Llafur yn Oldham nos Iau ar ôl wythnos mor gythryblus iddo fo a’i blaid.

I  bawb a oedd wedi cael digon ar obsesiwn sylwebwyr gwleidyddol y BBC ar y gwahaniaethau barn o fewn y Blaid Lafur ynghylch bomio Syria, roedd y canlyniad annisgwyl yn chwa o awyr iach.

Mae’n ddigon rhesymol dadlau mai ennill er gwaethaf Jeremy Corbyn a’i wleidyddiaeth ac nid o’u herwydd a wnaeth Llafur nos Iau, ond nid dyna’r pwynt. Y ffaith oedd fod Llafur wedi cynyddu ei chanran o’r bleidlais ar ôl misoedd o sylw digon anffafriol yn y cyfryngau. Sy’n dangos o leiaf nad ydi Jeremy Corbyn wedi gwenwyno Llafur fel brand i’r graddau y mae rhai o’i elynion wedi awgrymu.

Yn fwy na dim, roedd y fuddugoliaeth yn dangos yn glir cymaint o fwlch sydd rhwng llawer o sylwebwyr gwleidyddol ac etholwyr cyffredin.

Drwy’r wythnos, cafodd y drafodaeth holl-bwysig a ddylai Prydain ymestyn ei chyrchoedd bomio i Syria neu beidio ei diraddio gan y BBC i stori am y rhwygiadau o fewn y Blaid Lafur ar y pwnc.

Roedd yn amlwg fod y syniad o Aelodau Seneddol yn cael dewis sut i bleidleisio yn gysyniad cwbl ddieithr i sylwebwyr y BBC, fel petaen nhw’n meddwl y byddai eu gwylwyr wedi eu syfrdanu o weld hyn. I drwch yr etholwyr, fodd bynnag, mae’n siwr gen i mai’r cwestiwn o bwys fyddai a ydi cynyddu’r bomio yn gam doeth ac effeithiol yn erbyn IS ai peidio.

Y system bleidiol yn rhwystr

Gan dderbyn bod angen cymryd pinsied o halen ynghylch cymhellion llawer o Aelodau Seneddol dros bleidleisio fel y gwnaethon nhw, boed hynny o blaid neu yn erbyn, mae’n sicr fod y ddadl ddydd Mercher o safon uwch na’r rhan fwyaf o drafodaethau seneddol. Roedd hyn oherwydd bod areithiau’r gwleidyddion yn cyfrif am unwaith, gan fod modd iddyn nhw ddylanwadu ar ambell un o’u cyd-aelodau.

Mae’n amlwg bellach fod y system bleidiol wedi datblygu’n rhwystr i ddemocratiaeth, ac wedi cyfrannu’n helaeth at ddadrithiad y cyhoedd mewn gwleidyddiaeth yn gyffredinol.

Dydi’r syniad o blaid wleidyddol lle mae pawb yn cytuno â’i gilydd, yn eilun-addoli eu harweinydd ac yn gwrthwynebu pob plaid arall ddim yn argyhoeddi neb bellach. Bai’r pleidiau gwleidyddol eu hunain ydi hyn yn bennaf, wrth gwrs. Ar y llaw arall, mae gohebwyr gwleidyddol wedi cyfrannu at y broblem hefyd drwy wneud môr a mynydd o ‘rwygiadau’ i’r graddau fod llawer o wleidyddion yn ofni dangos unrhyw wahaniaethau barn.

Yr hyn sy’n dod i’r amlwg ydi y gall sylwebwyr gwleidyddol fod yn llawn cymaint o anoraciaid â’r gwleidyddion eu hunain yn aml.

Colli cyfleoedd

Nid nad oedd ymddygiad Jeremy Corbyn dros yr wythnos ddiwethaf yn haeddu cryn dipyn o feirniadaeth hefyd. Dylai’n sicr fod wedi penderfynu ar bleidlais rydd o’r cychwyn yn hytrach nag ymddangos fel petai wedi cael ei orfodi i wneud hynny.

Dylai hefyd fod wedi osgoi’r dryswch ynghylch ei agwedd at hawl yr heddlu i ladd ymosodwyr treisgar mewn digwyddiad tebyg i’r un yn Paris. Does neb call yn credu y gall plismyn fynd at yr ymosodwyr hyn mewn amgylchiadau o’r fath ac esbonio’u hawliau a gofyn yn garedig iddyn nhw ddod i gael eu holi yn swyddfa’r heddlu. Ond ni wnaeth Jeremy Corbyn hyn yn ddigon clir, a thrwy hynny gosododd dasg anoddach iddo’i hun wrth godi amheuon cwbl ddilys ynghylch doethineb bomio Syria.

Cyfle arall a gollwyd ganddo ef a’i gefnogwyr oedd peidio â dangos mor ddiwerth ydi arfau niwclear fel Trident i geisio atal ymosodiadau fel yr un yn Paris. Petaen nhw, a phawb arall sy’n gwrthwynebu Trident, yn manteisio ar gyfleoedd fel hyn i ddadlau dros ei sgrapio a gwario’r arian ar wella effeithlonrwydd y gwasanaethau cudd, mi fyddai modd ennill llawer o gefnogwyr newydd i ochri â nhw.

Methiant arall ganddyn nhw – a gwendid ar ran y wasg hefyd – oedd peidio â herio David Cameron yn ddigon caled am y ffordd y mae wedi ymdrin â Syria. Y gwir amdani ydi ei fod wedi gwneud tro pedol llwyr ar y pwnc. Y tro diwethaf, pan geisiodd yn aflwyddiannus gael cymeradwyaeth y senedd i weithredu milwrol yno, roedd hynny i geisio disodli’r arlywydd Bashar Assad. Mae bellach wedi cael cefnogaeth i led-gydweithio ag Assad yn erbyn rhai o’i wrthwynebwyr.

Faint gwaeth fyddai pethau yn Syria heddiw petai David Cameron wedi cael ei ffordd ddwy flynedd yn ôl? Dydi’r ffaith ei fod yn anghywir bryd hynny ddim yn golygu o angenrheidrwydd ei fod yn anghywir y tro hwn, ond mae’n anodd gweld pam y dylai neb fod â gormod o ffydd yn ei ddoethineb wrth arwain y senedd i gymryd eu penderfyniad tyngedfennol ddydd Mercher.

Mae Jeremy Corbyn a’i blaid wedi cael ail wynt ers nos Iau, ond mi fydd angen iddyn nhw wneud yn llawer gwell i allu herio’r llywodraeth yn effeithiol.