Gallai canlyniad y refferendwm ar ddyfodol Prydain yn yr Undeb Ewropeaidd arwain at argyfwng cyfansoddiadol i’r Deyrnas Unedig, yn ôl arbenigwyr gwleidyddol.
Ar sail dadansoddiad o’r arolygon barn diweddaraf, mae astudiaeth fanwl gan y sefydliad ymchwil NatCen yn dangos cefnogaeth weddol gyson yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd ond y gallai’r bleidlais fynd y naill ffordd neu’r llall yn Lloegr.
Mae NatCen o’r farn mai’r trothwy allweddol yw 47.5% o bobl Lloegr yn pleidleisio dros aros i mewn. Os bydd yn is, mae’n debyg y byddai’n ddigon i olygu mwyafrif drwy Brydain dros adael. Byddai hynny’n golygu y gallai pobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gael eu gorfodi i adael yn groes i’w dymuniad.
Yr hyn a fyddai’n debygol o achosi’r straen mwyaf ar y Deyrnas Unedig, fodd bynnag, fyddai pleidlais o rhwng 47.5% a 49.9% yn Lloegr dros gadw Prydain yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Byddai hynny’n golygu mai’r Saeson a fyddai’n cael eu gorfodi yn groes i’w hewyllys gan y gwledydd Celtaidd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Gallai fod yn dân ar groen pleidleiswyr Ewrosgeptig Lloegr petaen nhw’n colli’r refferendwm oherwydd pleidleisiau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon,” meddai Rachel Ormston, awdur yr astudiaeth.
“Petai barn Lloegr yn cael ei wrthbwyso gan bleidleisiau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, neu’n gwrthbwyso’r pleidleisiau hynny, gallai’r oblygiadau cyfansoddiadol ymestyn y tu hwn i’r cwestiwn penodol a ddylai’r Deyrnas Unedig aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu beidio.”