Yr Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon (llun: PA)
Mae’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon wedi cadarnhau fod awyrennau’r Llu Awyr wedi taro maes olew arall yn Syria mewn ail noson o ymosod neithiwr.

Cafodd awyrennau Typhoon o RAF Lossiemouth yn yr Alban ac awyrennau di-beilot Reaper eu defnyddio am y tro cyntaf neithiwr, yn ogystal â Tornados, mewn ymgais i ddinistrio ffynhonnell ariannol y Wladwriaeth Islamaidd (Daesh).

Wrth ymweld ag RAF Akrotiri, canolfan lluoedd Prydain ar ynys Cyprus, rhybuddiodd Michael Fallon y bydd trechu Daesh yn golygu brwydr hir.

“Nid yw’r ymgyrch hon am fod yn fyr nac yn syml,” meddai wrth annerch tua 200 o aelodau criwiau’r Llu Awyr yno. “Rydym yn wynebu math newydd o elyn nad oes arno eisiau trafod.

“Mae’n fygythiad gwirioneddol i ni ym Mhrydain, ac mae’n deillio o Syria.

“Rydych bellach yn gallu taro Daesh o bob ochr i’r ffin – Syria ac Irac. Ac rydych yn gallu eu taro’n galetach. Gwelwyd holl rym yr RAF neithiwr.”

Mae ymyrraeth Prydain wedi cael ei diystyru gan un o’r grwpiau sy’n ymladd yn erbyn yr arlywydd Assad yn Syria, fodd bynnag. Yn ôl Byddin Rhyddid Syria, nid yw ymyrraeth Prydain yn ddim ond “ychydig mwy o awyrennau jet” mewn ymgyrch hir.