Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae arweinydd Undeb y Brigadau Tân (FBU) wedi rhybuddio Aelodau Seneddol Llafur i beidio â sefyll yn ffordd eu harweinydd Jeremy Corbyn.

Dywed Matt Wrack fod aelodau Llafur ar lawr gwlad yn benderfynol o weld Jeremy Corbyn yn llwyddo a bod arnyn nhw eisiau ASau sy’n cefnogi ei bolisïau.

Mae ei sylwadau wedi cynyddu ofnau ymysg ASau cymedrol Llafur y gallai cefnogwyr Jeremy Corbyn eu targedu i’w disodli.

Ni ddylai ASau ddisgwyl cael eu dewis yn ymgeisyr yn 25 oed a chael “aros yn eu swydd am 40 mlynedd heb rhyw fath o ddeialog a thrafodaeth gyda’r bobl a’u rhoddodd nhw yno,” yn ôl Matt Wrack, sy’n un o gefnogwyr pybyr Jeremy Corbyn.

“Mae’n amlwg y bydd trafodaeth ynghylch materion fel pwy sy’n cynrychioli Llafur yn y Senedd,” meddai.

“Roedd ethol Jeremy Corbyn yn adlewyrchu awydd trwch o bobl am newid mewn gwleidyddiaeth. Mae ar y bobl hyn eisiau cynrychiolwyr yn y Senedd a fydd yn cefnogi polisïau i amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus a hawliau gweithwyr a safonau byw pobl.”