Barack Obama
Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi dweud ei fod yn bosib bod ymosodiad yng Nghaliffornia, pan gafodd 14 o bobl eu saethu’n farw, yn gysylltiedig â brawychiaeth.
Ond ychwanegodd bod yr awdurdodau yn y tywyllwch o hyd ynglŷn â’r cymhelliad y tu ôl i’r digwyddiad ac y gallai fod o ganlyniad i anghydfod yn y gweithle.
Bu’r Arlywydd yn ceisio sicrhau Americanwyr bod yr awdurdodau yn gwneud popeth posib i geisio darganfod beth ddigwyddodd.
Roedd Syed Rizwan Farook, 28, a’i wraig Tashfeen Malik, 27, wedi saethu 14 o bobl yn farw yng nghanolfan gwasanaethau cymdeithasol i bobl anabl ddydd Mercher. Cafodd 17 o bobl eraill eu hanafu, rhai’n ddifrifol, wrth i’r ddau danio gynnau at swyddogion iechyd a oedd yn cael parti Nadolig.
Cafodd Farook a Malik eu saethu’n farw gan yr heddlu ychydig o filltiroedd i ffwrdd o’r ganolfan yn ddiweddarach. Cafwyd hyd i ddrylliau yn eu car a daeth yr heddlu o hyd i ffrwydron yn y ganolfan hefyd.
Roedd Farook wedi bod yn y parti gyda’i gyd-weithwyr, cyn iddo ddiflannu ac yna dychwelyd gyda’i wraig. Dechreuodd y ddau danio gynnau at y grŵp.
Cafodd Farook ei eni yn yr Unol Daleithiau i deulu o Bacistan. Yn ôl perthnasau, fe deithiodd i Saudi Arabia i gwrdd â’i wraig yn gynharach eleni. Roedd gan y cwpl ferch chwe mis oed.