Michael Gove
Fe fydd tal sy’n cael ei godi ar droseddwyr yn cael ei sgrapio o fewn wythnosau yn dilyn beirniadaeth lem.

Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder, Michael Gove wedi cadarnhau na fydd y ffi bellach yn cael ei godi o 24 Rhagfyr.

Ers mis Ebrill mae’r rhai sy’n eu cael yn euog o droseddau yng Nghymru a Lloegr wedi gorfod talu ffi rhwng £150 a  £1,200.

Cafodd ffioedd llysoedd troseddol eu cyflwyno saith mis yn ôl gan ragflaenydd Michael Gove, Chris Grayling, yn ystod y Llywodraeth Glymblaid i helpu tuag at y gost o gynnal y system llysoedd.

Ond fe fu gwrthwynebiad chwyrn gan gyfreithwyr a grwpiau ymgyrchu, ac mae’n debyg bod mwy na 50 o ynadon wedi ymddiswyddo mewn protest.

Roedd gwrthwynebwyr yn honni bod y ffi yn “annog” pobl i bledio’n euog, hyd yn oed os oedden nhw’n honni eu bod yn ddieuog, er mwyn osgoi talu ffi uwch os oedden nhw’n eu cael yn euog.

Fe wnaeth Michael Gove y cyhoeddiad heddiw mewn cyfarfod o Gyngor Cymdeithas yr Ynadon yn Llundain.

Dywedodd: “Mae ynadon wedi mynegi eu barn yn glir ac rydw i wedi gwrando’n astud arnynt.”