Ysbyty Glan Clwyd
Gallai Canolfan Gofal Dwys i fabis newydd gael ei hadeiladu ger Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan erbyn 2018 os yw cynlluniau’n cael eu cymeradwyo.

Bydd Achos Busnes Amlinellol ar gyfer y ganolfan yn cael ei gyflwyno i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn cyfarfod ddydd Mawrth (8 Rhagfyr).

Os caiff sêl bendith, bydd y ganolfan o’r ‘radd flaenaf’ yn gofalu am fabis sydd wedi cael eu geni’n rhy gynnar neu rai sy’n sâl iawn.

£1.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru

“Mae’r Bwrdd Iechyd wedi cael cyllid o £1.4miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu’r cynlluniau hyn ac rwyf yn sicr y bydd y gwaith sy’n cael ei wneud yn rhoi Canolfan y gallwn fod yn falch ohoni i Ogledd Cymru,” meddai Peter Higson, Cadeirydd y Bwrdd.

Mae’n debygol y bydd y cynnig yn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd ac yna bydd yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w gymeradwyo.

Yna, bydd yn rhaid i’r Bwrdd Iechyd gwblhau ei Achos Busnes Llawn a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ei gymeradwyo erbyn mis Gorffennaf 2016 cyn i’r gwaith adeiladu ddechrau ar y safle.

Mae disgwyl y bydd y ganolfan wedi cael ei hadeiladu ac yn weithredol erbyn mis Mawrth 2018.

Dim  israddio

Cyhoeddodd y Bwrdd ar ddechrau’r wythnos na fyddai unrhyw gynlluniau i israddio gwasanaethau mamolaeth yn y gogledd yn digwydd wedi ymgynghoriad a gwrthwynebiad chwyrn gan bobol leol a gwleidyddion.