Mae cannoedd o bobl LHDTQ+ sy’n cuddio rhag y Taliban yn Affganistan yn wynebu “ras yn erbyn amser” i gael eu hachub, yn ôl ymgyrchwyr.

Dywedodd Nemat Sadat, gweithredydd hoyw Affgan-Americanaidd o San Diego, California, fod rhagor na 500 o bobol LHDTQ+ yn Affganistan wedi cysylltu ag ef drwy’r cyfryngau cymdeithasol ar ôl iddo ddechrau tudalen GoFundMe – gan obeithio codi 500,000 o ddoleri’r UD (£367,000) i’w helpu i gyrraedd diogelwch mewn gwledydd fel y DU, UDA, Canada, Ffrainc a’r Almaen.

Dywedodd yr awdur 42 oed fod y rhai yr oedd wedi siarad â nhw wedi dioddef gormes difrifol, ac mae’n gwybod am nifer o bobl a laddwyd gan y Taliban oherwydd eu rhywioldeb.

“Mae llawer mewn sefyllfaoedd economaidd ofnadwy, ni all lawer weithio ac maent yn eistedd gartref yn cuddio ac ar doeon,” meddai Mr Sadat wrth asiantaeth newyddion PA.

Newynu

“Mae hefyd yn ras yn erbyn amser – mae pobl yn newynu i farwolaeth, mae pobl yn mynd i gael eu lladd gan y Taliban ac yn cyflawni hunanladdiad.”

“Rwy’n gwybod y byddaf yn cael yr arian yn y pen draw, mae’n debyg, ond mae’r Taliban yn cau i mewn.”

Dywedodd Mr Sadat ei fod yn siarad ag un dyn a oedd wedi bod yn osgoi cael ei ddal ers i’w bartner gael ei ddienyddio gan ymladdwyr Taliban.

Dienyddio

“Pan ddaeth (y Taliban) i Kabul, roedd y dyn ifanc hwn yn siarad yn unig gyda’i gariad mewn bwyty,” meddai Mr Sadat.

“(Am ei fod yn hoyw) cafodd ei gariad ei ddienyddio yn y fan a’r lle.”

Mewn achos arall, gofynnodd menyw lesbiaidd i Mr Sadat am help oherwydd bod ei chyn-ŵr yn “ei hela”, gan gynllunio i’w throsglwyddo i’r Taliban a fydd “yn ôl pob tebyg yn ei llabyddio i farwolaeth”.

Dangosodd Mr Sadat negeseuon yr oedd wedi’u derbyn gan y rai a oedd wedi’u dal yn Affganistan, a disgrifiodd llawer ohonynt eu hunain fel carcharorion.

“Does gen i ddim arian, does gen i ddim gwaith, rydyn ni’n cael ein hamddifadu o bopeth . . . Rwy’n byw fel carcharor,” meddai un neges.”