Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu menter sy’n rhoi arian yn ôl i bobol am ailgylchu poteli plastig neu wydr.

Yn ôl ymchwil blaenorol gan Wrap Cymru, mae tua 400,000 tunnell o wastraff plastig yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn, gyda 67 y cant o’r gwastraff hynny yn becynnau.

Er mwyn ceisio torri i lawr ar y lefelau gwastraff hynny, byddai cynllun newydd yn annog pobol i dalu blaendal wrth brynu poteli gwydr neu blastig, ac yna gael arian yn ôl wrth eu dychwelyd i bwyntiau casglu penodol.

Yn Norwy, mae menter debyg wedi arwain at 95 y cant o boteli’n cael eu hailgylchu.

Roedd Llywodraeth Prydain wedi crybwyll y byddan nhw’n ceisio cyflwyno cynllun o’r fath yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, ond mae hynny wedi ei ohirio tan “2024 ar y cynharaf.”

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud fod yr oedi hynny gan Lywodraeth Prydain yn “annerbyniol.”

“Nawr yw’r amser i Gymru arwain nid dilyn”

Fe alwodd Jane Dodds, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, ar Lywodraeth Cymru i gymryd ei chamau eu hun ar leihau gwastraff plastig.

“Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau breision sydd eu hangen i amddiffyn cefn gwlad Cymru, ei dyfroedd a’i bywyd gwyllt trwy gyflwyno ei chynllun blaendal ei hun,” meddai.

“Mae’r oedi parhaus yn San Steffan yn dangos bod mynd i’r afael â llygredd plastig ddim yn uchel ar agenda’r Ceidwadwyr.

Jane Dodds

“Nid yn unig bod cynlluniau’r Ceidwadwyr [yn San Steffan] wedi cael eu gohirio, ond mae Wildlife and Countryside Link wedi cyhoeddi adroddiad yn dangos bod y cynlluniau am gael eu lleihau yn sylweddol, gan osod cyfyngiadau ar faint ac o bosib eithrio cynnyrch gwydr.

“Rydyn ni eisoes yn gwybod y byddai gan gynllun o’r fath gefnogaeth gyhoeddus eang, gydag arolwg gan YouGov a’r Elusen Cefn Gwlad yn canfod bod 76 y cant o bobol Prydain yn cefnogi’r cynllun ar gyfer poteli diodydd plastig a gwydr, yn ogystal â chaniau alwminiwm.

“Mae’r Alban eisoes wedi symud ymlaen gyda’i chynllun ei hun a fydd yn weithredol erbyn yr haf nesaf, does dim rheswm pam na allwn ni yng Nghymru wneud yr un peth.

“Gyda llygaid y byd ar y Deyrnas Unedig wrth i Gynhadledd Hinsawdd COP26 gael ei chynnal yng Nglasgow, nawr yw’r amser i Gymru arwain nid dilyn.”