Map yn dangos lleoliad Paraguay yng nghanol cyfandir De Ameirica (llun: CC BY-SA 3.0)
Mae uwch-swyddog a oedd yn gyfrifol am faterion Indiaid brodorol yn Paraguay wedi cael ei sacio gan arlywydd y wlad ar ôl honiadau iddo gicio dynes frodorol.
Dywed yr arlywydd Haracio Cartes na fydd yn caniatáu i rywun sy’n cynrychioli pobl frodorol gicio dynes.
Mae fideo sydd i’w gweld ar wefannau cymdeithasol yn dangos pennaeth y swyddfa materion Indiaid brodorol, Jorge Servin, yn codi ei ben-glin chwith a chicio Jorgelna Portillo o grŵp ethnig Ava Guarani yn ystod protest ddydd Iau.
Mae Jorge Servin yn gwadu taro’r ddynes ac yn dweud iddo godi ei ben-glin i amddiffyn ei hun.
Digwyddodd y brotest gan tua 200 o aelodau o’r grŵp ethnig yn rhanbarth Canindeyu yng ngogledd y wlad.
Roedden nhw’n protestio yn erbyn Jorge Servin am iddo anfon mesur i’r Gyngres a fyddai’n cyfyngu ar brydlesu tir y wladwriaeth sy’n cael ei reoli gan bobl frodorol.