Safle un o'r ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd
Mae gwregys ffrwydron, tebyg i’r un gafodd ei ddefnyddio yn ystod ymosodiadau Paris, wedi cael ei ddarganfod mewn sbwriel.
Cafwyd hyd i’r gwregys yn agos i’r safle lle daethpwyd o hyd i ffon symudol yn perthyn i Salah Abdeslam a oedd wedi ffoi wedi’r ymosodiadau.
Mae ’na bosibilrwydd ei fod wedi rhoi’r gorau i’r ymosodiad gan nad oedd y gwregys ffrwydron yn gweithio neu wedi ffoi mewn ofn.
Roedd casglwr sbwriel wedi dod o hyd i’r gwregys mewn rwbel yn Chatillon-Montrouge yn ne’r brifddinas.
Dywedodd swyddog yr heddlu bod y gwregys yn cynnwys yr un fath o ffrwydron a gafodd eu defnyddio yn yr ymosodiadau ym Mharis ar 13 Tachwedd, gan ladd 130 ac anafu cannoedd o bobl eraill.
Ond ychwanegodd nad yw’r gwregys wedi cael ei gysylltu’n ffurfiol a Salah Abdeslam.
Parhau mae’r chwilio am Salah Abdeslam – roedd ei frawd, Brahim, yn un o’r hunan-fomwyr fu’n cymryd rhan yn yr ymosodiadau.
Gwlad Belg
Daw’r darganfyddiad wrth i Brif Weinidog Gwlad Belg, Charles Michel, gyhoeddi y bydd y mesurau diogelwch llym yn parhau am o leiaf wythnos arall oherwydd “bygythiad difrifol.”
Mae’r mesurau, sydd wedi bod mewn grym ers tri diwrnod, wedi amharu’n sylweddol ar fywyd bob dydd y trigolion, gydag ysgolion, siopau a’r metro ynghau.
Ond mae disgwyl i’r ysgolion ail-agor ddydd Mercher, ac fe fydd rhannau o’r gwasanaeth trenau tanddaearol yn ail-ddechrau hefyd.
Galwodd Charles Michel ar bobl i fod yn wyliadwrus gan ddweud fod y targedau yn parhau’r un fath – canolfannau siopau, strydoedd prysur a thrafnidiaeth gyhoeddus.