Heddlu Pen-y-bont ar Ogwr
Mae heddlu Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhuddo dyn lleol mewn cysylltiad â lladrad arfog mewn siop bentref ym Mhontycymer wythnos ddiwethaf.
Mae Gavin Brian Williams, sy’n 34 oed o Langynwyd, ger Maesteg wedi’i gyhuddo o ladrata ac o fod ag arf ymosodol yn ei feddiant.
Fe ddigwyddodd y lladrad yn siop Co-op ar Stryd Fictoria yn y pentref ar 16 Tachwedd, pan gafodd rheolwr y siop a dau weithiwr eu clymu, a chafodd mwy na £2,000 mewn arian parod ei ddwyn.
Cafodd Williams ei gadw yn y ddalfa gan Lys Ynadon Pen-y-bont ar Ogwr.
Parhau i chwilio
Dywed Heddlu’r De eu bod yn parhau i ymchwilio i’r digwyddiad ac maen nhw’n awyddus i siarad ag unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr achos.
“Rydym wedi cyhuddo un dyn mewn cysylltiad â’r trosedd hwn ac rydym yn dal i ymchwilio i’r digwyddiad a oedd yn drawmatig iawn i’r dioddefwyr,” meddai’r Ditectif Arolygydd Andy Paddison.
“Er ein bod wedi arestio un dyn, rydym yn dal i apelio ar unrhyw un a allai fod â gwybodaeth i gysylltu â ni.”
Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 101 a dyfynnu 1500424842 neu ffonio Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111.