Poster yn holi am Salah Abdeslam (Llun: PA)
Mae heddlu Ffrainc yn dweud bod eu cyrch yn y ddinas ddoe wedi atal ymosodiad arall.
Mae’n debyg roedd aelodau’r grŵp braw, IS, yn cynllunio ail ymosodiad ar y ddinas o fewn wythnos gan dargedu maes awyr Charles de Gaulle a rhanbarth ariannol y ddinas, La Defense.
Yn ystod y cyrch saith awr ar fflat yn ardal ogleddol Paris, Saint-Denis, roedd dynes wedi ei ffrwydro ei hun ac fe gafodd person arall ei ladd.
Yn ôl rhai adroddiadau, un o arweinwyr honedig yr ymosodiadau a laddodd 129 o bobol nos Wener oedd hwnnw. Ond does dim cadarnhad.
Parhau i chwilio am Salah Abdeslam
Fe gafodd wyth o bobol eu harestio ond, yn ôl erlynydd ym Mharis, doedd y rhain ddim yn cynnwys Abdelhamid Abaaoud, jihadydd 27 oed o wlad Belg.
Mae’r heddlu hefyd yn dal i edrych am Salah Abdeslam sy’n cael ei amau o gymryd rhan yn yr ymosodiadau a saethu pobol yn farw. Mae’r chwilio amdano’n parhau.
Cafwyd hyd i ddau ddyn yn fyw yn y fflat, roedd un ohonyn nhw wedi cael ei anafu gan rai o’r 5,000 o fwledi yr oedd yr heddlu wedi eu tanio.
Mae’r wyth a gafodd eu harestio yn cynnwys y ddynes a’r dyn oedd yn byw yn y fflat – y gred yw ei fod yn cael ei ddefnyddio yn fan cuddio i’r grŵp. Maen nhw’n cael eu holi ar hyn o bryd.