Yr ymosodiadau ym Mharis nos Wener
Mae’r awdurdodau yn Nhwrci wedi arestio mwy na hanner dwsin o bobl sy’n cael eu hamau o fod yn eithafwyr Wladwriaeth Islamaidd (IS) a oedd wedi cyfnewid negeseuon gyda milwriaethwyr ym Mharis a gyflawnodd yr ymosodiadau ar draws y brifddinas.
Dywedodd swyddog diogelwch bod y rhai gafodd eu harestio yn Nhwrci wedi bod yn cynllwynio ymosodiadau tebyg yn Istanbwl.
Credir bod un o’r dynion gafodd eu harestio yn gysylltiedig â Mohammed Emwazi, y ffigwr blaenllaw o fewn IS oedd yn cael ei adnabod fel “Jihadi John” ac a gafodd ei dargedu mewn ymosodiadau awyr wythnos ddiwethaf.