Neuadd Bataclan ym Mharis wedi'r ymosodiad ddydd Gwener
Mae pump o’r saith o bobl gafodd eu harestio ym Mrwsel mewn cysylltiad â’r ymosodiadau ym Mharis wedi cael eu rhyddhau.

Yn eu plith mae brawd Ibrahim Abdeslam sy’n cael ei amau o fod yn un o’r hunan-fomwyr a oedd wedi cymryd rhan yn yr ymosodiadau nos Wener.

Dywedodd llefarydd ar ran erlynwyr Gwlad Belg bod  Mohammed Abdeslam wedi’i ryddhau yn ddi-gyhuddiad.

Mae’r heddlu’n parhau i chwilio am drydydd brawd, Salah Abdeslam, sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig â’r ymosodiadau pan gafodd 129 o bobl eu lladd.

Cafodd cyrch  ei gynnal yn ardal Molenbeek yng Ngwlad Belg gan heddlu arfog am dair awr y bore ma ac yn ôl adroddiadau, y bwriad oedd arestio  Salah Abdeslam.

Nid oes cadarnhad ar hyn o bryd os oes unrhyw un wedi’u harestio yn dilyn y cyrch.

Honnir bod Salah Abdeslam wedi llogi car a gafodd ei ddefnyddio gan y grŵp a ymosododd ar neuadd Bataclan ym Mharis.

Yn yr oriau wedi’r ymosodiadau ym Mharis, roedd heddlu Ffrainc wedi stopio car Salah Abdeslam a dau ddyn arall yn agos i’r ffin gyda Gwlad Belg ond fe gawson nhw ganiatâd i barhau gyda’u taith gan nad oedd eu henwau ar restr o bobl oedd yn cael eu hamau ar y pryd.

Cyrchoedd

Dywed heddlu Ffrainc bod cyrchoedd wedi cael eu cynnal mewn 168 o safleoedd ar draws Ffrainc dros nos. Mae 104 wedi cael eu harestio yn ystod y 48 awr ddiweddaf a nifer o arfau, gan gynnwys gynnau Kalashnikov wedi’u meddiannu gan yr heddlu.

Wrth i’r ymdrech gwrthderfysgaeth barhau, mae’r awdurdodau wedi adnabod y dyn sy’n cael ei amau o gynllwynio’r ymosodiadau ym Mharis.

Credir bod Abdelhamid Abaaoud o Wlad Belg yn un o’r ffigurau blaenllaw yn yr ymosodiadau.

Mae hefyd wedi’i gysylltu â chynllwyn i ymosod ar drên ac eglwys yn ardal Paris, meddai swyddog.

Yn y cyfamser fe fu gwledydd ar draws Ewrop yn nodi munud o dawelwch am 11 y bore ma i gofio’r 129 o bobl fu farw yn yr ymosodiadau ym Mharis nos Wener.