Mae heddlu Ffrainc yn chwilio am Salah Abdeslam
Parhau mae’r chwilio am ddyn sy’n cael ei amau o fod yn gysylltiedig ag ymosodiadau Paris wrth i’r DU baratoi i recriwtio 2,000 o ysbiwyr ychwanegol i fynd i’r afael a’r bygythiad gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS).
Mae heddlu ar draws Ewrop wedi bod yn chwilio am Salah Abdeslam, 26, a oedd wedi rhentu car i gludo dynion arfog i neuadd Bataclan ym Mharis – un o safleoedd y gyflafan nos Wener.
Bu heddlu Ffrainc yn cynnal 150 o gyrchoedd dros nos.
Mae pobl yn y DU yn cael eu hannog i nodi munud o dawelwch ar draws Ewrop am 11 y bore ma i gofio’r 129 o bobl gafodd eu lladd a’r 350 gafodd eu hanafu yn y gyflafan ym mhrifddinas Ffrainc.
Fe fydd David Cameron yn nodi’r munud o dawelwch ynghyd ag arweinwyr byd eraill yn uwch gynhadledd yr G20 yn Nhwrci.
Colli cyfle
Roedd yr awdurdodau yn Ffrainc wedi colli cyfle i arestio Salah Abdeslam oriau’n unig ar ôl y gyflafan ym Mharis, pan gafodd ei holi a’i ryddhau fore Sadwrn.
Roedd swyddogion wedi stopio’r car oedd yn cludo Abdeslam a dau ddyn arall ger y ffin a Gwlad Belg.
Mae Salah Abdeslam yn un o dri brawd sy’n cael eu hamau o fod yn gysylltiedig ag ymosodiadau Paris.
Mae’r heddlu wedi cyhoeddi enw un o’r brodyr eraill. Roedd Brahim Abdeslam, 31, yn hunan-fomiwr a ffrwydrodd bom yn neuadd Bataclan yn Boulevard Voltaire.
Cafodd trydydd brawd ei arestio yng Ngwlad Belg.
Ymosod ar safleoedd IS yn Syria
Mae IS wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau ym Mharis. Fe ymatebodd lluoedd Ffrainc drwy gynnal ymosodiadau ar safleoedd IS yn Raqqa, Syria.
Cafodd 20 o fomiau eu gollwng ar wersyll hyfforddi jihadaidd a safleoedd eraill yn Raqqa.
Yn ôl swyddogion cudd-wybodaeth yn Irac roedd yr ymosodiadau ym Mharis wedi cael eu cynllwynio.
Mae’r heddlu ac ysbiwyr ym Mhrydain yn gweithio’n agos gyda Ffrainc a Gwlad Belg i geisio adnabod ac arestio’r rhai oedd yn gyfrifol am gyflafan Paris.
Recriwtio rhagor o ysbiwyr
Mae mesurau diogelwch wedi’u tynhau mewn nifer o ddinasoedd a phorthladdoedd yn y DU ac mae pobl wedi cael eu hannog i fod yn wyliadwrus.
Mae David Cameron wedi cyhoeddi cynnydd o 15% yn nifer y staff yn asiantaethau diogelwch MI5, MI6, a’r ganolfan glustfeinio GCHQ a fydd yn recriwtio 1,900 o staff ychwanegol. Maen nhw eisoes yn cyflogi 12,700 o staff.