Bu cynnydd o 11% yn y nifer o fusnesau yng Nghymru ers 2011, yn ôl adroddiad sy’n edrych ar entrepreneuriaeth ryngwladol.

A hithau’n ddechrau Wythnos Entrepreneuriaid y Byd, mae Llywodraeth Cymru’n defnyddio’r ffigurau heddiw i annog mwy o bobol ifanc i fentro i’r byd busnes.

Yn ôl yr Adroddiad Monitro Entrepreneuriaeth Ryngwladol yn 2014, roedd 231,110 o fusnesau yng Nghymru, o’i gymharu â 207,740 yn 2011.

Ac mae nifer y bobol sy’n cael eu cyflogi gan y busnesau hyn wedi cynyddu o 998,000 i 1,058,500 dros yr un cyfnod.

“Mae’r newydd da hwn yn ein cyrraedd ar ddechrau Wythnos Entrepreneuriaid y Byd sy’n dathlu llwyddiant entrepreneuriaid ac yn ceisio ysbrydoli eraill i ddilyn eu hesiampl,” meddai Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Edwina Hart.

Ac mi ddywedodd hefyd fod y ffigurau hyn yn dangos “mor bwysig yw busnesau o ran creu swyddi, rhannu ffyniant a chyfrannu at economi Cymru.”

Roedd y ffigurau hefyd yn dangos bod 9,177 o fusnesau wedi cael eu creu drwy gymorth gan Fusnes Cymru, corff y llywodraeth i helpu busnesau a gafodd eu sefydlu yn 2013.

“Rydym yn parhau i fuddsoddi yng ngwasanaethau Busnes Cymru ac yn eu gwella i helpu busnesau ym mhob cam o’u datblygiad – o’u sefydlu i’r rheini sydd am weld eu busnesau’n tyfu,” meddai Edwina Hart.

58% o bobol ifanc am sefydlu busnes

Roedd Arolwg Omnibws Cymru 2015 yn dangos bod 58% o bobol dan 25 oed yng Nghymru bellach am sefydlu eu busnes eu hunain, ac mae hyn yn newyddion i’w groesawu yn ôl Edwina Hart.

“Mae gan Gymru ddiwylliant llewyrchus o entrepreneuriaid ifanc, ac mae cyfraddau gweithgarwch entrepreneuriaid yng Nghymru gyda’r uchaf ym Mhrydain,” meddai.

“Wrth i Wythnos Entrepreneuriaid y Byd ddechrau, byddwn i’n annog unrhyw un sydd ag uchelgais i ddechrau busnes neu unrhyw un sydd â syniad da a allai fod yn fan cychwyn i fusnes i gysylltu â Busnes Cymru i gael help i droi’r syniadau, breuddwydion a’r uchelgeisiau hynny’n realiti.”