Syria (Llun: Wikipedia)
Mae dwy o ganolfannau’r Wladwriaeth Islamaidd wedi cael eu dinistrio mewn cyrchoedd awyr yng ngogledd Syria, meddai Gweinyddiaeth Amddiffyn Ffrainc.
Roedd un o’r canolfannau’n ganolfan hyfforddi.
Daeth cadarnhad o’r cyrchoedd wedi i Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande addo ymateb yn “ddi-drugaredd” i’r gyflafan ym Mharis nos Wener.
Roedd 10 awyren ynghlwm wrth y cyrchoedd wrth iddyn nhw ollwng 20 o fomiau.