Roedd gwasanaeth aml-ffydd yn ardal Llandysul ddydd Sul yn “dipyn o lwyddiant”, yn ôl ysgrifennydd Undodiaid Cymru, Melda Grantham.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Hen Gapel Llwynrhydowen ar y cyd â Chyngor Rhyng-ffydd Cymru, a than ofal y Parchedig Wyn Thomas.

Roedd nifer o gynrychiolwyr o gymuned Foslemaidd a Baha’i Cymru yn y gwasanaeth, a chafwyd cyflwyniad a gweddïau gan nifer o’r Mwslemiaid.

Tua 70 o bobol oedd yn y gwasanaeth, sydd yn “growd dda”, meddai Melda Grantham.

Dywedodd hi wrth Golwg360: “Dyma’r tro cyntaf i Gyngor Rhyng-ffydd Cymru fentro y tu allan i Gaerdydd.”

Ychwanegodd hi fod y gwasanaeth, ddeuddydd wedi’r gyflafan ym Mharis, yn gyfle i “gael pobol at ei gilydd a chael pobol i sylweddoli bod mwy yn ein cysylltu ni nag sy’n ein gwahanu ni”.

“Mae tipyn o anwybodaeth o hyd, ond does dim bai ar neb am hynny. Ro’n i’n falch o gael y fraint o gael pobol at ei gilydd.”

Dywedodd fod “awyrgylch arbennig, mor gartrefol” yn y gwasanaeth.

Yn dilyn llwyddiant y digwyddiad, fe fydd Cyngor Mwslimiaid Cymru’n cynnal digwyddiad codi ymwybyddiaeth o’u cymuned yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Ac fe fydd Melda Grantham yn mynd i’r brifddinas ddydd Sul nesaf ar gyfer digwyddiad ‘Wales Challenges Islamophobia’ yn Neuadd y Ddinas.

Cafodd £267,000 ei wario ar adnewyddu adeilad cofrestredig yr Hen Gapel dros yr haf.