Mae’r awdurdodau yn Ffrainc wedi enwi dyn o Wlad Belg maen nhw’n chwilio amdano mewn perthynas â’r gyflafan ym Mharis nos Wener.

Cafodd 129 o bobol eu lladd, ac mae cannoedd yn rhagor wedi’u hanafu yn dilyn cyfres o ffrwydradau a chyrchoedd saethu ar draws y ddinas.

Mae lle i gredu bod un o’r brawychwyr, Salah Abdeslam – sy’n 26 oed – wedi llwyddo i ffoi mewn car yn dilyn y gyflafan.

Dywed yr heddlu ei fod yn enedigol o Wlad Belg.

Rhybuddiodd yr heddlu ei fod yn ddyn peryglus na ddylai’r cyhoedd fynd yn agos ato.

Mae lle i gredu bod dau o’i frodyr hefyd ynghlwm wrth y gyflafan.

Mae saith o bobol bellach wedi cael eu harestio yng Ngwlad Belg.