Arlywydd Catalwnia, Artur Mas
Mae ’na ansicrwydd dros ddyfodol arweinydd y gynghrair o bleidiau sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia wrth i aelodau’r senedd yno ddadlau dros ei ail-ethol yn arlywydd y rhanbarth neu beidio.

Mae Artur Mas yn arwain y gynghrair, Junts pel Sí (Gyda’n Gilydd dros Ie), sydd wedi addo sicrhau annibyniaeth oddi wrth Sbaen erbyn canol 2017.

Bydd ymgeisyddiaeth yr arweinydd yn mynd drwy ail bleidlais heddiw ar ôl iddo golli’r rownd gyntaf ddydd Mawrth.

Fe wnaeth ei gynghrair a’r blaid asgell chwith CUP, ddefnyddio eu 72 o seddi yn y siambr o 135 o seddi ddydd Llun i gymeradwyo cynllun i gael annibyniaeth i’r rhanbarth ymhen dwy flynedd.

Ond dywedodd y CUP, sydd â 10 o seddi, na fyddai’n cefnogi Artur Mas fel arlywydd, gan awgrymu y gallai trafodaethau am lywodraeth newydd barhau am gyfnod eto.

Sbaen yn gorchymyn gohirio’r cynllun annibyniaeth

Mae Llys Cyfansoddiadol Sbaen wedi gorchymyn bod cynllun y gynghrair yn cael ei ohirio dros dro a rhybuddiodd y gallai Artur Mas a’i gynghreiriaid wynebu cyhuddiadau troseddol os byddan nhw’n anwybyddu’r penderfyniad hwn.