Sepp Blatter
Mae llywydd Fifa, Sepp Blatter yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty am straen yn dilyn ei waharddiad gan y corff sy’n llywodraethu’r byd pêl-droed rhyngwladol.

Ond mae disgwyl i’r gŵr o’r Swistir barhau i frwydro yn erbyn gwaharddiad 90 diwrnod o’i waith yn dilyn honiadau ei fod wedi derbyn taliadau llwgr.

Mae disgwyl i Blatter fod yn yr ysbyty yn Zurich tan yr wythnos nesaf.

Dywedodd ei ymgynghorydd wrth Press Association ei fod wedi cael ei gynghori i “ymlacio” am y tro, ond ei fod yn bwriadu dychwelyd i’w waith ddydd Mawrth.

Mae Blatter yn honni nad oedd gan bwyllgor moesau Fifa yr hawl i’w wahardd o’i waith.

Mae’n gwadu’r honiadau ei fod wedi bod yn rhan o broses lwgr a arweiniodd at roi’r hawl i’r Almaen gynnal Cwpan y Byd yn 2006.

Mae’r helynt wedi arwain at ymddiswyddiad llywydd Cymdeithas Bêl-droed yr Almaen, Wolfgang Niersbach.

Mae honiadau bod cynrychiolwyr yr Almaen, gan gynnwys y seren Franz Beckenbauer, wedi defnyddio 6.7 miliwn Ewro i greu cronfa i brynu pleidleisiau, ond maen nhw’n gwrthod yr honiadau.