Mae 40 o blant wedi cael eu taro’n wael mewn ysgol yn Swydd Efrog.
Roedd y plant, sydd i gyd yn ddisgyblion yn Academi Outwood yn Ripon, wedi bod yn cyfogi ac yn teimlo’n ben ysgafn.
Dydy achos eu salwch ddim yn glir eto ac mae’r gwasanaethau brys yn rhoi triniaeth i rai o’r plant ar safle’r ysgol.
Mae dau o blant eraill wedi cael eu cludo i’r ysbyty.
Cafodd y plant eu taro’n wael yn ystod gwasanaeth i goffáu Dydd y Cadoediad rhwng 11 a 11.30 y bore ma.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tan Gogledd Swydd Efrog bod swyddogion deunyddiau peryglus arbenigol wedi cael eu hanfon i’r ysgol.
Mae ymchwiliad i achos y salwch yn parhau.