Mae dynes a gafodd ei tharo gan fan yn Llandudno ddydd Llun wedi marw yn yr ysbyty.

Cafodd y ddynes 52 oed ei chludo i’r ysbyty yn Stoke yn dilyn y digwyddiad.

Mae’r heddlu’n parhau i ymchwilio i’r gwrthdrawiad a ddigwyddodd yn Ffordd Clarence yn y dref ychydig cyn 1.30 brynhawn Llun, Tachwedd 9.

Dylai unrhyw â gwybodaeth gysylltu â Heddlu’r Gogledd ar 101.