Llys Ynadon Llanelli
Mae dyn 30 oed wedi’i gadw yn y ddalfa ar ôl cael ei gyhuddo o lofruddio dyn 22 oed yn Llanelli.

Bu farw Simon Lee Bell, 22, yn yr ysbyty ddydd Sul yn dilyn digwyddiad yn Stryd Dilwyn, Llanelli nos Wener, 6 Tachwedd.

Ymddangosodd Wesley Jones gerbron ynadon yn Llanelli y bore ma, ac fe gafodd ei gadw yn y ddalfa.

Bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe ddydd Iau.

Mae dyn 52 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.